Bangor University

Bangor University

TAR Uwchradd - Ieithoedd Modern gyda GAA (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig)

UCAS Code: 3F5H TAR Uwchradd - Ieithoedd Modern gyda GAA (gyda SAC) Bwriad y rhaglen TAR Uwchradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu'n athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant trwy'r sector uwchradd a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol. Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill. *Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno. Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi eu hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd athrawon cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol a^'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru. Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu yng Nghymru a thu hwnt iddi. Byddwn yn rhoi cefnogaeth wahaniaethol beth bynnag fo'ch sgiliau a'ch cymhwysedd yn y Gymraeg a'ch ymwybybyddiaeth a'ch dealltwriaeth o'r iaith a diwylliant Cymraeg.

Entry requirements

Postgraduate Certificate in Education - PGCE: Gradd anrhydedd dda mewn maes yn gysylltiedig a^'r pwnc. TGAU Gradd B/Gradd 5 (neu gyfwerth) mewn Saesneg Iaith a Mathemateg/Rhifedd, TGAU Gradd C/Gradd 4 mewn Cymraeg Iaith. Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg. IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5)

Qualifications

Qualification Study mode Start month Fee Course duration
Postgraduate Certificate in Education - PGCE Full-time September 2019 - 1 Years

Campus details

Campus name Town Postcode Region Main campus Campus Partner
Main Site LL57 2DG Wales

Get in touch

Remember to mention TARGETpostgrad when contacting universities.